Quantcast
Channel: Sylwadau ar: Angen help gyda phrawf (Aled Roberts AM, Comisiwn Etholiadol a’r ‘dim hits’)
Viewing latest article 3
Browse Latest Browse All 20

Gan: Dafydd Tomos

$
0
0

Mae yna lawer iawn o esboniadau am pan nad oes ceisiadau a dwi ddim yn meddwl mai JavaScript neu Google Analytics yw’r ateb, am fod y Comisiwn yn dweud fod 173 cais ar gyfer y ddogfen saesneg (sydd i’w weld yn uchel iawn i fi). Mae Vaughan Roderick yn dweud efallai fod awdurdodau lleol yn debygol o blocio JavaScript ond dyw hynny ddim yn arferol chwaith. Mae cyfrifiaduron ar rwydwaith awdurdod lleol neu lyfrgelloedd yn fwy tebygol o ddefnyddio ‘whitelist’ o wefannau i’w caniatau tra’n gwrthod y lleill.

Mae llawer yn dibynnu yn union ar pa dudalen yr aeth Aled iddo. Os aeth e i dudalen HTML ar wefan y Comisiwn ac yna clicio’r PDF mi fyddai o leia un cais wedi gofnodi yn Google Analytics (os nad oedd problem yn llwytho sgript Analytics am unrhyw reswm). Os oedd e wedi dilyn dolen i’r PDF yn uniongyrchol, dim ond yn log y gweinydd fase hynny wedi cofnodi.

(Os oes yna logs wrth gwrs, mi fasech chi’n synnu cyn lleied mae rhai gweinyddwr systemau yn talu sylw i osod a archifo logs yn gywir, er mai dyma y wybodaeth fwya trylwyr a dibynnadwy sydd i gael ar unrhyw wefan).

Mae yna bosibiliadau eraill. Er enghraifft mae gan wefan y Comisiwn weinydd ‘cache’ wedi ei osod o’i flaen (mae’n rhedeg Squid). Pwrpas hwn yw lleihau y nifer o geisiadau i’r gweinydd go iawn ac osgoi gorlwytho y gweinydd. Ydi’r comisiwn yn defnyddio logs o’r gweinydd tu ôl y llenni neu o’r cache?

Yn ola, dyw’r Comisiwn ddim yn dweud pa gyfnod mae’r ystadegau yn cyfeirio ato (diwrnod? wythnos?) ond mae’n eitha anhebygol fod dim un cais o gwbl wedi bod i’r PDF. Heblaw am gais gan ‘berson go iawn’ mi fyddai nifer o bots wedi ymweld a’r dogfennau.

Dwi’n cynnal gwefan sydd a llawer iawn o ddogfennau PDF ar gael i’r cyhoedd. Mae yna lawer iawn o bots gwahanol yn crafu’r dogfennau hynny bob dydd, ac yn gyfrifol am tua 0.1% o’r traffig. Mae’r ystadegau yma yn dod o’r logs a ddim yn dibynnu ar unrhyw god JS.


Viewing latest article 3
Browse Latest Browse All 20

Trending Articles


Cyrraedd y miliwn: Dysgu tafodiaith mewn ysgolion


NATIONAL PRINTING PRESS


Atal Hawl i Brynu Tai Cyngor